| Back to Map |
Local Events
South, Mid & West Wales
Helo, fy enw i ydy Matt Croxall a fi ydy Swyddog Datblygu Cymunedol De, Canolbarth a Gorllewin Cymru hyd at Orffennaf 2010.
Rwy’n gyfrifol am gefnogi unigolion, teuluoedd a mudiadau ar draws yr ardal, ac yn gweithio tuag at godi proffil y Meningitis Trust ynghyd a chodi ymwybyddiaeth am arwyddion, symptomau ag ôl-effeithiau llid yr ymennydd.
Rwyf hefyd yn ymglymedig gyda helpu pobl i godi arian i’r Trust, felly os hoffech wybod mwy am sut i ymuno yn un o weithgareddau’r mudiad, neu os oes gennych chi syniad eich hun, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Er mwyn ffeindio allan mwy am waith y Trust yn eich ardal chi neu os hoffech fod yn rhan o waith y mudiad, cysylltwch â mi ar 0845 120 4884 neu e-bostiwch mattcroxall@meningitis-trust.org.
Mae gan Yell.com rhywbeth i weiddi amdano!
Cyfrannodd staff Yell.com yng nghanolfan alwad Casnewydd £150 a godwyd yn ystod eu Dydd Gwenner ‘gwisg eich hunan’ wythnosol. Mae'n ffordd hawdd a braf i godi arian gwerthfawr, ac mae hefyd yn ffordd braf i greu awyrgylch hamddenol yn y swyddfa. Os hoffech chi drafod godi arian ac ymwybyddiaeth o fewn eich lle gwaith, ffoniwch Matt Croxall ar 0845 120 4884.
Mynd am Dro yn yr Haul
Diolch i bawb a gymerodd ran yn Taith Gerdded yn y Parc eleni.Cawsom dros 30 o gerddwyr (gan gynnwys rhai cŵn awyddus iawn!) yn cymryd rhan yn y digwyddiad ym Mharc Gwledig Margam ger Port Talbot.
Roedd y tywydd ynbraf, a wnaeth pawb mwynhau gweithio lan awydd am ginio Dydd Sul mawr. Y flwyddyn nesaf fydd Taith Gerdded yn y Parc yn cael ei gynnal ar Ddydd Sul 19 Medi 2010, felly cofiwch osod y dyddiad yn eich dyddiadur!
Elw 'net'!
Llongyfarchiadau iGlwb Tenis Cwmbrana gododd dros £600 tuag at waith yr Ymddiriedolaeth gan gynnal twrnament parau cymysg. Trefnwydy gystadleuaeth gan Jason ac AlisonWicks. Contractwyd eu mab Jacob llid yr ymennydd ym Mai 2008, pan oedd yn dair oed . Teithiodd y gystadleuwyr o bell ac agos i gymryd rhan- daeth un cwpl yr holl ffordd o Lundain, ac ar ôl y gwasanaethardderchog a ddarparwyd gan y clwb, rydym yn gobeithio fydd hyd yn oed mwy o chwaraewyr yn dychwelyd y flwyddyn nesaf!
Ser Codi Arian
Gail a Jamie Yearbury Murphy yw ‘Codwyr arian y Mis’ mis yma am eu bod wedi llwyddo i sicrhau 11 dyddiad mewn archfarchnadoedd a chanolfannau siopa yn eu cymuned o amgylch Pontypridd. Hyd yn hyn, mae’r ddau wedi dosbarthu dros 2000 o gardiau symptomau ad wedi codi dros £2300. Bydd yr arian yma yn mynd i helpu target Jamie o £3000 sydd angen iddo godi er mwyn cwblhau ei daith dramor y 3 Llosgfynydd ym mis Medi. Pob lwc Jamie.
Seren Cyfryngau
Siân Lloyd yw ein Seren Cyfryngau tro yma ar ôl cytuno i siarad gyda Radio Ceredigion ar ein rhan. Bydd Siân yn cymryd rhan yn ein Taith 3 Llosgfynydd ac mae hefyd am helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Mudiad drwy siarad am ei phrofiad. Diolch yn fawr Siân.
Awyr-blymio Maes Awyr Abertawe!
Ydych chi erioed wedi meddwl am daflu eich hun oddi ar awyren? Wel, dyma eich cyfle! Gallwch godi arian i’r Meningitis Trust tra eich bod chi wrthi hefyd. Dyna gyd mae rhaid i chi wneud ydy gadael i mi wybod, ac fe helpa i gyda’r gweddill mattcroxall@meningitis-trust.org C’mon – ‘sdim esgys dros beidio!
Peidiwch anghofio i ddweud wrthym ni am eich digwyddiadau Meningitis Trust chi yng Nghymru drwy alw 0845 120 4884 neu ebostio mattcroxall@meningitis-trust.org



